BSL-38 Ffion Alun
Senedd Cymru |
Welsh Parliament
Bil Aelod
Arfaethedig – Mark Isherwood AS | Proposed Member Bill - Mark
Isherwood MS
Datblygu'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)
|
Development of the British
Sign Language (BSL) (Wales) Bill
Ymateb gan:
Ffion Alun | Evidence from: Ffion Alun
Yr angen am ddeddfwriaeth
Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn ei
gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyhoeddi canllawiau ynghylch
hybu a hwyluso defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Fodd
bynnag, dim ond yn Lloegr y mae’r Ddeddf hon yn gymwys. Nid
yw’n gymwys i Lywodraeth Cymru na chyrff cyhoeddus yng
Nghymru, fel cynghorau neu’r GIG. Nod Bil Iaith
Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw gosod dyletswyddau penodol
cyfatebol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Cwestiwn 1: A ydych chi’n credu bod angen y ddeddfwriaeth
hon? Rhowch resymau dros eich ateb.
Yn bendant -
angen cyfle i bawb cael cyfathrebu yn deg
Cwestiwn 2: A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno
â’r nodau y mae’r Bil yn ceisio eu cyflawni?
Rhowch resymau dros eich ateb.
Iaith Arwyddion Prydain
Cwestiwn 3: A ydych chi’n cytuno y dylai’r Bil
gynnwys cynigion i hybu a hwyluso defnydd o BSL a’i ffurfiau
cyffyrddol?
Cwestiwn 4: A ydych chi’n cytuno y dylai’r Bil
gefnogi’r tafodieithoedd rhanbarthol amrywiol sy’n
bodoli yng Nghymru yng nghyd-destun BSL?
Cwestiwn 5: A ydych chi’n credu y dylid rhoi ‘BSL
signers’ (arwyddwyr BSL) yn lle’r term ‘BSL
users’ (defnyddwyr BSL), gan gydnabod bod BSL yn iaith
sy’n cynnwys arwyddwyr byddar ac arwyddwyr sy’n clywed?
Rhowch resymau dros eich ateb.
Cwestiwn 6: A ydych chi o’r farn y gellir defnyddio'r
term ‘deaf BSL signers’ ('arwyddwyr BSL byddar') wrth
gyfeirio at ddefnyddwyr/arwyddwyr BSL sy'n fyddar yn feddygol neu'n
awdiolegol? Rhowch resymau dros eich ateb.
Cymunedau byddar
Cwestiwn 7: A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno
â’r datganiadau a ganlyn am gymunedau byddar:
a) ar hyn o bryd, mae ganddynt lais yn y ffordd y mae’r
gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu defnyddio yn cael eu dylunio
a’u darparu. Ticiwch yr ateb mwyaf cymwys a nodwch unrhyw
sylwadau sydd gennych.
Anghytuno’n gryf.
Pam dylai bod
yn fyddar eu rhwystro rhag cael cynnig teg?
b) dylai fod ganddynt lais ffurfiol yn y ffordd y mae’r
gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu defnyddio yn cael eu dylunio
a’u darparu, yn enwedig y rhai sydd wedi’u targedu at
bobl fyddar. Ticiwch yr ateb mwyaf cymwys a nodwch unrhyw sylwadau
sydd gennych.
Cwestiwn 8: A oes unrhyw ddulliau cyfathrebu penodol eraill, a
ddefnyddir gan bobl fyddar, yr hoffech i’r Bil gyfeirio
atynt/eu cynnwys?
Rhwystrau sy’n bodoli i bobl fyddar
Cwestiwn 9: Beth, yn eich barn chi, yw’r prif rwystrau
sy’n bodoli ar hyn o bryd i bobl fyddar a/neu eu teuluoedd yn
y meysydd a ganlyn. Ticiwch bob un sy’n gymwys a rhowch
resymau dros eich ateb.
Addysg;
Iechyd; Gofal Cymdeithasol; Trafnidiaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus
Eraills a ddefnyddir gan bobl fyddar a’u teuluoedd;
Gweithle.
Angen rhyw
drefniant arbennig yn gyson - bobl cael eu eithtio yn ddyddiol
Sefydlu Comisiynydd BSL Cymru
Mae’r Bil yn cynnig sefydlu Comisiynydd
Iaith Arwyddion Prydain a fyddai’n hybu ac yn hwyluso defnydd
o BSL. Byddai gan y Comisiynydd hwn yr un pwerau â
Chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, fel ym Mesur y Gymraeg
(Cymru) 2011.
Cwestiwn 10: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno
â’r cynnig i sefydlu Comisiynydd BSL Cymru, ac a oes
gennych unrhyw awgrymiadau neu ddewisiadau gwahanol? Rhowch resymau
dros eich ateb.
Cwestiwn 11: Cylch gorchwyl arfaethedig y Comisiynydd
fyddai:
§
llunio safonau BSL;
§
sefydlu panel cynghori BSL;
§
llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar
sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;
§
darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hybu a hwyluso BSL yn
eu priod barthau;
§
sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion.
A ydych chi’n cytuno â chylch gwaith arfaethedig y
Comisiynydd, ac a oes unrhyw ddarpariaethau eraill yr hoffech eu
cynnwys yn ei gylch gwaith? Rhowch resymau dros eich ateb.
Monitro beth
syn digwydd rwan - rhannu ymarfer dda.
Cwestiwn 12: A ydych chi'n cytuno y dylai'r Comisiynydd BSL ac
aelodau'r Panel Cynghori BSL fod yn ddefnyddwyr/arwyddwyr
rhugl?
Cwestiwn 13: A ydych chi’n credu y dylai’r
Comisiynydd BSL a’r Panel Cynghori arfaethedig
flaenoriaethu’r canlynol? Ticiwch bob un sy’n gymwys a
rhowch resymau dros eich ateb.
Galluogi
defnyddwyr byddar/arwyddwyr i arwain y gwaith o ddatblygu
polisïau a gweithredu gwasanaethau i ddefnyddwyr/arwyddwyr
BSL; Cymorth iaith blynyddoedd cynnar i blant byddar a’u
teuluoedd; Gwella darpariaeth BSL ym maes addysg; Mynediad at
ddehonglwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Cwestiwn 14: A ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno
â’r cynnig i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i
lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar BSL? Rhowch resymau dros
eich ateb.
Cwestiwn 15: A oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu codi am
y Bil a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig?